Prif amcan MPCT yw sicrhau diogelwch a llesiant ei ddysgwyr bob amser. Mae ei gweledigaeth bob amser wedi ymwneud â chefnogi a datblygu pobl ifanc i gyflawni eu nodau a’u huchelgeisiau. Rydym yn cyflawni hyn drwy gyfuniad o astudio a gweithgareddau corfforol sy’n seiliedig ar ddulliau milwrol.
Er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud hyn mewn amgylchedd diogel, mae MPCT wedi buddsoddi’n sylweddol yn y gwaith o ddiogelu ei Ddysgwyr ac mae ganddo brosesau cadarn a manwl er mwyn sicrhau ein bod yn diogelu’r Dysgwyr yn ein gofal.
Rydym yn gwneud hyn drwy sicrhau bod pob aelod o’n staff wedi’u hyfforddi’n ddigonol i ddelio ag unrhyw bryder diogelu a all godi. Cânt eu cefnogi gan arweinwyr diogelu ymrwymedig ym mhob maes a’u cydlynu’n genedlaethol gan Brif Swyddog Diogelu.
Mae MPCT yn meithrin cydberthnasau gwaith agos â Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol er mwyn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth diogelu cyd-destunol sy’n ymestyn y tu hwnt i ffiniau’r coleg lleol.
Rydym yn ysgogi diwylliant o fod yn agored a thryloyw gan annog pob Dysgwr i ymgysylltu’n llawn â staff MPCT, gan roi’r hyder iddynt ddatgelu unrhyw bryderon a all fod ganddynt. Caiff unrhyw ddatgeliad a wnaed gan Ddysgwyr ei gymryd o ddifrif a chaiff y sylw priodol bob amser er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel bob amser.
Mae gan MPCT hefyd brosesau o roi gwybod am bryderon diogelwch drwy lwybrau amgen os na fydd gan yr atgyfeiriwr yr hyder i siarad â Hyfforddwr yn uniongyrchol. Bydd y rhain yn cynnwys:
Cyfeiriad e-bost diogelu dynodedig keepmesafe@mpct.wp.d
Llinell Diogelu Ddynodedig gyda pheiriant ateb 02921 675537.
Yr unigolyn sy’n gyfrifol am ddiogelwch cyffredinol MPCT yw’r Prif Swyddog Diogelu (LSO) Richard Erskine a bydd yn ymdrin â’r pryderon o’r dulliau cyfathrebu hyn. Mae’r LSO yn annibynnol ar y colegau a bydd yn gyfrifol yn bersonol os bydd unrhyw bryderon uniongyrchol yn codi yn erbyn hyfforddwr neu aelod arall o MPCT.
Gellir hefyd roi gwybod am bryderon diogelu yn ddienw drwy unrhyw un o’r elusennau cenedlaethol. Mae’r MPCT yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth â’r sefydliadau hyn er mwyn sicrhau eu bod yn ymdrin â phob pryder yn cael ei drin yn briodol.
Childline: 0800 1111 www.childline.org.uk
NSPCC: 0808 800 5000 www.NSPCC.org.uk
Mae’r trefniadau diogelu cynhwysfawr iawn yn bodloni’r holl ofynion statudol. Mae staff yn cael hyfforddiant ar ddiogelu yn ystod y cyfnod sefydlu a chaiff staff diogelu allweddol eu hyfforddi i lefelau uwch.”
Ofsted 2014