Croeso gan y rheolwr gyfarwyddwr
Ers 1999, mae MPCT wedi dangos y gall pobl ifanc o bob math o gefndir lwyddo yn yr amgylchedd cywir, ac maent yn gwneud hynny. Rydym wedi gweld a chefnogi cymaint o bobl ifanc sydd ar adeg heriol eu bywydau, yn pontio o blentyndod i fod yn oedolyn.
Yn MPCT, credwn drwy arweinyddiaeth ac addysgu rhagorol, gall pawb gyflawni eu nodau. Rydym wedi cael arolygiad gan Ofsted a dyfarnwyd “rhagorol” i ni ym mhob maes – ym maes canlyniadau ar gyfer myfyrwyr, dysgu ac asesu, arwain a rheoli ac ym maes ansawdd yr addysgu. Cawsom hefyd ein cydnabod gan TES fel Darparwr Hyfforddiant y Flwyddyn yn 2017 am y canlyniadau rhagorol y mae ein myfyrwyr yn eu cyflawni ym mhob un o’n colegau.
Mae pob Hyfforddwr yn y coleg wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog Prydeinig ac mae pob un ohonynt yn fodelau rôl i’n myfyrwyr. Maent wedi cael hyfforddiant gan y goreuon ac felly, yn eu tro, mae ein myfyrwyr yn dysgu gan y goreuon. Mae’r ymdeimlad o falchder y mae ein staff yn ei deimlo wrth ddatblygu, hyfforddi a chefnogi ein myfyrwyr hefyd wedi cael cydnabyddiaeth gan fod MPCT wedi’i gynnwys yn rhestr y Times o’r 100 o Lefydd Gorau i Weithio iddynt yn 2017 am y tro cyntaf.
Mae graddedigion y rhaglen sy’n penderfynu ymuno â’r Lluoedd Arfog Prydeinig yn fwy tebygol o lawer o fod yn llwyddiannus na’r rhai sy’n cofrestru’n uniongyrchol. Bydd gan y myfyrwyr sy’n dewis dilyn opsiynau gyrfaoedd eraill y sgiliau craidd i ategu eu llwyddiant. Gyda’r gyfres hon o sgiliau a chymwysterau newydd, mae drysau a fu unwaith ar gau bellach yn lled agored iddynt. Mae’r rhan fwyaf yn cyflawni llawer mwy na’r disgwyl.
Bydd ymweliad ag unrhyw safle MPCT yn rhoi cipolwg ar yr hyn a ystyrir yn addysg unigryw a
gwerth chweil.
Huw Lewis MBE