Cwestiynau Cyffredin
Dyma rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin a ofynnir gan fyfyrwyr cyn iddynt gofrestru ar y cwrs. Os nad ydych yn gweld eich cwestiwn, cysylltwch â ni neu ffoniwch 0330 111 3939 a bydd y tîm yn barod i ateb eich cwestiwn.
Dyma rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin a ofynnir gan fyfyrwyr cyn iddynt gofrestru ar y cwrs. Os nad ydych yn gweld eich cwestiwn, cysylltwch â ni neu ffoniwch 0330 111 3939 a bydd y tîm yn barod i ateb eich cwestiwn.
A oes angen cymwysterau arnaf i ddechrau’r cwrs?
Nac oes, dim ond yr agwedd gywir. Fodd bynnag, os ydych wedi cwblhau’r un cymhwyster ar lefel uwch efallai na fyddwch yn gallu ymuno â’r cwrs.
A yw’r cwrs yn rhad ac am ddim?
Ydy. Mae’r hyfforddiant am ddim am fod y cwrs yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
A oes angen i mi fod yn ffit i ddechrau’r cwrs?
Nac oes. Byddwn yn sicrhau eich bod yn gweithio ar lefel sy’n addas i chi. Bydd eich ffitrwydd yn gwella’n naturiol wrth i chi gymryd rhan mewn ymarfer corff bob dydd yn y coleg.
A fyddaf yn cael fy nhalu?
Efallai y byddwch yn gymwys i gael bwrsariaeth neu lwfans hyfforddiant yn dibynnu ar ba wlad rydych yn byw ynddi. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.
A fyddaf yn cael gwisgo lifrai?
Byddwch. Mae pob myfyriwr ar y rhaglen yn gwisgo lifrai’r coleg. Mae hyn yn eu gwneud yn rhan o’r tîm ac yn rhoi ymdeimlad o falchder iddynt. Caiff manylion am eich lifrai eu hesbonio ar y diwrnod cyntaf. Os hoffech weld y lifrau cliciwch yma i fynd i’r siop.
A fydd angen i mi dalu am unrhyw offer neu gyfarpar?
Bydd. I gael gwybod a ydych yn gymwys, ewch i’n tudalennau Canllawiau Ariannol ar gyfer Cymru neu Loegr.
A yw’r cwrs yn gwrs preswyl?
Nac ydy. Bydd angen i chi fyw gartref o hyd tra byddwch yn mynychu eich Coleg Paratoi ar gyfer y Fyddin lleol ond cewch gyfleoedd i fynd ar ymarferion dros nos.
A fydd y cwrs yn fy helpu i ddewis gyrfa?
Byddwch yn cael cyngor unigol ar yrfaoedd tra y byddwch ar y cwrs i’ch helpu gyda’ch dewisiadau galwedigaethol.
A fyddaf yn cael unrhyw wyliau?
Byddwch. Byddwch yn gymwys i gael hyd at 35 diwrnod o wyliau y flwyddyn.
Pryd y gallaf ddechrau?
Yn wahanol i golegau traddodiadol, gallwch ddechrau unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae hyn fel arfer o fewn wythnos o wneud cais.
Beth fydd angen i mi ddod â nhw gyda fi ar fy niwrnod cyntaf?
Dyma ein rhestr wirio i wneud yn siŵr bod eich mab/merch yn dod â phopeth sydd ei angen arno/arni: