Tystysgrif lefel 2 mewn ymarfer corff a Ffitrwydd

Nod

Yn y Gampfa
Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at ddysgwyr sydd am ddilyn gyrfa yn y diwydiant chwaraeon a ffitrwydd fel hyfforddwr ffitrwydd yng nghyd-destun ymarfer corff sydd yn y gampfa.

Bydd Dysgwyr yn cwmpasu’r canlynol:

  • anatomi a ffisioleg, gan gynnwys:
    – y galon a system cylchrediad y gwaed
    – y system anadlol
    – strwythur a swyddogaeth yr ysgerbwd
    – y system gyhyrysgerbydol
    – sadrwydd osgo a chraidd
    – y systemau nerfol ac egni a’u perthynas ag ymarfer corff
  • sut i gynnal iechyd, diogelwch a llesiant mewn amrywiaeth o amgylcheddau ffitrwydd, gan gynnwys diogelu plant ac oedolion sy’n agored i niwed
  • sut i raglennu ymarfer corff diogel ac effeithiol i amrywiaeth o gleientiaid, buddiannau iechyd gweithgarwch corfforol a phwysigrwydd bwyta’n iach
  • sut i gyfathrebu â chleientiaid yn effeithiol ac ysgogi cleientiaid i ddal ati a dilyn rhaglen ymarfer corff
  • y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gynllunio a pharatoi rhaglen ymarfer corff sydd yn y gampfa gydag oedolion sy’n ymddangos yn iach – unigolion ac mewn grwpiau. Gall hyn gynnwys pobl ifanc rhwng 14 a 16 oed, ar yr amod eu bod yn rhan o grŵp mwy o oedolion. Mae’r grwpiau cleientiaid sydd hefyd yn cael eu cwmpasu yn cynnwys oedolion hŷn, cleientiaid cynenedigol ac ôl-enedigol a chleientiaid anabl, ar yr amod y caiff y gwrtharwyddion perthnasol a’r canllawiau diogelwch allweddol eu dilyn

Hyfforddiant Cylchol
Nod y cymhwyster hwn yw darparu’r wybodaeth, dealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i gynllunio a chynnal sesiynau hyfforddiant cylchol i grwpiau.

Bydd Dysgwyr yn cwmpasu’r canlynol:

  • anatomi a ffisioleg gan gwmpasu system y galon system cylchrediad y gwaed, y system anadlol, strwythur a swyddogaeth yr ysgerbwd, y system gyhyrysgerbydol, sadrwydd osgo a chraidd, y systemau nerfol ac egni a’u perthynas ag ymarfer corff
  • sut i gynnal iechyd, diogelwch a llesiant mewn amrywiaeth o amgylcheddau ffitrwydd, gan gynnwys diogelu plant ac oedolion sy’n agored i niwed
  • sut i gyfathrebu â chleientiaid yn effeithiol ac ysgogi cleientiaid i ddal ati a dilyn rhaglen ymarfer corff
  • dealltwriaeth o fuddiannau deiet cytbwys a sut y mae’n cyfrannu at ffordd iach o fyw
  • dealltwriaeth o egwyddorion gwasanaeth cwsmeriaid
  • sut i gynllunio a pharatoi sesiynau hyfforddiant cylchol i grwpiau
  • sut i gynnal sesiynau hyfforddiant cylchol i grwpiau

Corff Dyfarnu: