Dyfarniad lefel 2 mewn egwyddorion hyfforddi chwaraeon

Mae’r Dyfarniad Lefel 2 mewn Egwyddorion Hyfforddi Chwaraeon yn darparu’r wybodaeth sydd ei hangen ar ddysgwyr i ddatblygu eu hyder a’u rhoi ar ben ffordd i ymgymryd â hyfforddi chwaraeon. Bydd dysgwyr yn dysgu’r wybodaeth gyffredinol sydd ei hangen ar hyfforddwyr chwaraeon i gynllunio, cynnal a gwerthuso sesiynau hyfforddi diogel.

Bydd y Dysgwyr yn cwmpasu’r canlynol:

  • Hanfodion hyfforddi chwaraeon
  • Sut i ddatblygu cyfranogwyr drwy hyfforddi chwaraeon
  • Sut i gefnogi ffyrdd o fyw cyfranogwyr drwy hyfforddi chwaraeon
  • Egwyddorion arferion hyfforddi diogel a theg

Mae’r cymhwyster hefyd yn darparu’r sail ar gyfer rhaglenni hyfforddi ar gyfer chwaraeon penodol sy’n dyfarnu Tystysgrif Hyfforddi y DU Lefel 2 (UKCC).

Corff Dyfarnu: