Diploma Lefel 1 mewn Chwaraeon a Hamdden Egnïol
Nod
dysgwyr yn dysgu am eu ffitrwydd eu hunain a sut mae’r corff yn gweithio drwy gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ffitrwydd drwy gynllunio a defnyddio eu rhaglen ffitrwydd eu hunain. Byddant hefyd yn dysgu am hawliau a chyfrifoldebau yn y gwaith, yn ogystal ag iechyd a diogelwch. Bydd dysgwyr hefyd yn cael y cyfle i ystyried cyfleoedd swyddi ym maes chwaraeon a hamdden llesol a dewis unedau sy’n ymwneud â chymryd rhan mewn chwaraeon, helpu arweinydd gweithgaredd, paratoi gweithgareddau corfforol i blant a pharatoi ar gyfer lleoliad gwaith.
Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i wneud dewisiadau hyddysg ynglŷn â symud ymlaen i gymwysterau lefel uwch a/neu gyflogaeth yn y sector.
Bydd Dysgwyr yn cwmpasu’r canlynol:
- swyddogaethau’r systemau ysgerbydol, cyhyrol a chardio-anadlol
- gofynion deiet iach
- gweithgareddau a chyfleusterau ymarfer a ffitrwydd gwahanol
- y gweithle: risgiau a pheryglon, hawliau cyflogeion a chyfrifoldebau
- gweithgareddau corfforol i blant a rôl oedolion
- sut i gefnogi arweinydd gweithgaredd chwaraeon neu hamdden llesol
Sgiliau sy’n ymwneud â’r cymhwyster:
- adolygu eich perfformiad eich hun wrth gymryd rhan mewn chwaraeon
- cynllunio a pharatoi gweithgareddau corfforol i blant
- cynllunio, defnyddio ac adolygu eich rhaglen ffitrwydd eu hunain
- helpu gyda’r gwaith o gynllunio a chynnal gweithgaredd chwaraeon
- pennu nodau ar gyfer lleoliad gwaith
Corff Dyfarnu: