Sgiliau Hanfodol Cymru

Nod cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yw eich helpu i wella eich sgiliau rhifedd a llythrennedd.Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol yn eich helpu i ddatblygu ac yn dangos i chi sut y gallwch gymhwyso’r sgiliau hanfodol hyn at amrywiaeth o sefyllfaoedd.

Byddwn yn eich cefnogi yn y gwaith o ennill y cymwysterau hyn, a fydd yn gwella eich hyder a’ch ysgogiad. Bydd y sgiliau y byddwch yn eu meithrin yn werthfawr ar gyfer dysgu pellach, gwaith a bywyd yn gyffredinol.

Mae’r cymwysterau hyn wedi’u hanelu at ddysgwyr dros 16 oed mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys:

  • Prentisiaethau
  • Hyfforddeiaethau
  • Lleoliadau seiliedig ar waith neu gymunedol eraill
  • Ystad ddiogel
  • Milwrol
  • (mewn rhai achosion) cefnogi dilyniant i gymhwyster TGAU Cymraeg/Saesneg neu Fathemateg.

Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol
Ar gael ar bum lefel (Mynediad 1, Mynediad 2, Mynediad 3, Lefel 1, Lefel 2). Gan gynnwys:

  • deall data rhifyddol
  • cyfrifo
  • dehongli a chyflwyno canlyniadau a chanfyddiadau.

Sgiliau Hanfodol Cymru
Ar gael ar bum lefel (Mynediad 1, Mynediad 2, Mynediad 3, Lefel 1, Lefel 2). Gan gynnwys:

  • siarad a gwrando
  • darllen
  • ysgrifennu

Mae’r cymwysterau hyn yn cynnwys proses asesu ‘terfynol’ crynodol.

Corff dyfarnu: