Cymwysterau
Hyfforddeiaeth – Ymgysylltu
Mae ein cwrs Ymgysylltu yn rhan o’r rhaglen Hyfforddeiaeth ac mae’n ffordd wych o gael blas ar y Coleg Paratoi ar gyfer y Fyddin. Bydd angen i chi fynychu’r cwrs am 21 awr yr wythnos (3.5 diwrnod) a byddwch yn cael budd o gael mwy o gymorth i fagu hyder ar y cwrs cyn i chi symud ymlaen i Hyfforddeiaeth Lefel 1.
Mae Cymwysterau Sgiliau Hanfodol yn rhan o’r cwricwlwm ar y Rhaglen Ymgysylltu a bydd yn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnoch er mwyn symud ymlaen i Hyfforddeiaeth Lefel 1.
Gallwch chi ennill y cymwysterau Sgiliau Hanfodol canlynol:
• Lefel Mynediad 1, 2 a 3 mewn Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol.
• Lefel Mynediad 1, 2 a 3 mewn Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol.
Hyfforddeiaeth – Lefel 1
Bydd ein cwrs BTEC Lefel 1 mewn Gwasanaeth Cyhoeddus yn eich helpu i ymchwilio, paratoi a chwblhau’r broses o wneud cais ar gyfer gyrfa yn y gwasanaethau mewn lifrau, gan gynnwys y Fyddin Brydeinig, y Llynges Frenhinol, yr Awyrlu Brenhinol, yr Heddlu, y Gwasanaeth Ambiwlans a’r Gwasanaeth Tân ac Achub. Byddwch yn mynychu’r cwrs am 30 awr (5 diwrnod) yr wythnos.
Yn ystod Lefel 1, byddwch yn parhau i weithio drwy eich Cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn ogystal â gweithio tuag at Ddyfarniad BTEC, Tystysgrif neu Ddiploma mewn Gwasanaethau Cyhoeddus.
Gallwch chi ennill y cymwysterau Sgiliau Hanfodol canlynol:
• Lefel Mynediad 3, Lefel 1 a Lefel 2 mewn Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol.
• Lefel Mynediad 3, Lefel 1 a Lefel 2 mewn Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol.
Byddwch yn astudio’r modiwlau canlynol yn ystod eich amser gyda ni:
- Chwilio am swydd.
- Ymddygiad yn y gwaith.
- Llesiant a ffitrwydd ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus.
- Prosiect grŵp Gwasanaethau Cyhoeddus.
- Gyrfaoedd Gwasanaethau Cyhoeddus.
- Gwella iechyd a ffitrwydd er mwyn gwneud cais am swydd yn y Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai.
- Sgiliau personol ar gyfer y Gwasanaethau Cyhoeddus.
- Rheoli eich iechyd yn y gwaith.
- Cyflwyniad i ddiogelwch yn y gwaith ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus.
- Gwaith tîm ymarferol yn y Gwasanaethau Cyhoeddus.
- Darllen mapiau a defnyddio mapiau’r arolwg ordnans.
- Cynllunio a chymryd rhan mewn digwyddiad.
- Datblygu sgiliau personol ar gyfer arwain.
- Gweithio fel gwirfoddolwr.
Byddwch yn meithrin y sgiliau, yr hyder a’r wybodaeth sydd eu hangen er mwyn symud ymlaen i astudio ymhellach neu er mwyn gwneud cais am swydd ar gyfer rôl gyhoeddus neu wasanaeth milwrol o’ch dewis.