ISO 9001

11th January 2018

“Sicrhau rhagoriaeth i bawb” – Datganiad Cenhadaeth MPCT

Ers ei sefydlu ym 1999, mae MPCT wedi ymrwymo i ddarparu’r rhaglenni addysg a hyfforddiant o’r radd flaenaf i bobl ifanc ledled y DU. Mae MPCT bob amser wedi ymdrechu i ddatblygu a gwella pob profiad addysgol ac mae ardystiad ISO 9001 yn dangos ein hymrwymiad parhaus i reoli ansawdd cyson.

Mae’r safon ISO yn disgrifio ‘System Rheoli Ansawdd’ fel: “system reoli a gynlluniwyd i gyfarwyddo a rheoli sefydliad o ran ansawdd.”

Cwmpas QMS MPCT yw dylunio a chyflwyno addysg a hyfforddiant i fyfyrwyr, gan gynnwys gwasanaethau cefnogi.

Mae hyn yn sicrhau bod pob agwedd ar weithrediadau MPCT, sy’n ymwneud yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ag addysg a hyfforddiant, gan gynnwys gwasanaethau cefnogi, yn rhan o QMS y coleg, ac felly maent yn destun gwerthusiad ac adolygiad. Caiff effeithiolrwydd y System Rheoli Ansawdd ei fonitro trwy broses o archwilio mewnol, adborth myfyrwyr, a dadansoddiad o’r adborth hwnnw a’r adolygiad rheoli. Mae adborth gan staff, sy’n rhan annatod o gymhwyso gwahanol elfennau’r QMS, yn rhybuddio’r Rheolwr Ansawdd i broblemau posibl a gwneir diwygiadau priodol ac amserol i gywiro’r diffyg. Ymdrinnir â meysydd anghydffurfiaeth trwy godi ceisiadau gweithredu cywiro ac fe roddir sylw i feysydd o anghydffurfiad posibl trwy gychwyn cais am gamau ataliol.

Apply Now