Rhian Adams
9th January 2018
Mae Rhian yn frwd dros chwaraeon ac ymarfer corff! Mae ei hoffter o chwaraeon wedi ei hannog i gystadlu mewn llawer o chwaraeon gwahanol ar y lefel uchaf. Ni waeth beth y mae’n rhoi cynnig arni, mae’n rhaid iddi wneud ei gorau glas! Ei chyflawniad gorau ym maes chwaraeon oedd cynrychioli Cymru yn y rygbi. Mae Rhian hefyd yn Hyfforddwraig Bersonol gymwysedig ac mae’n gweithio yn Dubai ar hyn o bryd.