”Dechreuais ar fy nhaith prentisiaeth gyda MPCT yn 2015 i ddatblygu fy ngwybodaeth a fy nghymhwysedd yn y diwydiant ymarfer corff a ffitrwydd. Dwi bob amser wedi bod yn frwdfrydig am ffitrwydd ac roedd hyn yn gyfle gwych i ddatblygu fy ngyrfa. Fel rhiant, roedd y cyfle i ennill wrth ddysgu yn addas i’m ffordd o fyw.
Yn ystod fy mhrentisiaeth, nid yn unig enillais gymwysterau ym maes ymarfer corff a ffitrwydd ond hefyd dysgais sut i’w cynhwyso’n hyderus yn fy ngwaith bob dydd. Unwaith roedd fy mhrentisiaeth sylfaen wedi’i chwblhau roeddwn yn gallu symud ymlaen i’r fframwaith Hyfforddwr Personol Lefel 3 gyda MPCT. Mae hyn wedi fy ngalluogi i sefydlu nifer o ddosbarthiadau newydd yn y ganolfan hamdden, a’r uchafbwynt oedd y dosbarth Mam a’i Baban.
Rwy’n argymell hyfforddiant prentisiaeth yn fawr oherwydd y sgiliau ymarferol y gallwch eu datblygu mewn amgylchedd gwaith go iawn. Roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi drwy gydol y rhaglen brentisiaeth gan MPCT a fy nghyflogwr.
Yn 2017 enillais wobr Prentis y Flwyddyn MPCT yn y seremoni wobrwyo flynyddol. Roedd hyn yn achlysur arbennig iawn i mi a fy nheulu.”
Emma Thomas, Canolfan Hamdden y Bont-faen
“Dechreuais fy hyfforddiant gyda MPCT ar y rhaglen Academi Chwaraeon yn RhCT. Gwnaeth y cwrs fy helpu drwy wella fy sgiliau cyflogadwyedd yng nghyd-destun chwaraeon a hamdden llesol. Tra roeddwn gyda’r academi roeddwn yn rhan o’r rhaglen i fyfyrwyr Dawnus a Thalentog, a wnaeth fy ngalluogi i gael cyfleoedd lleoliad gwaith ac i ennill cymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant ymarfer corff a ffitrwydd.
Yna, gyda’r cymwysterau hyn cofrestrais â Rhaglen Brentisiaeth MPCT a chael swydd yn J2 Health and Fitness. Tra’n cwblhau fy fframwaith prentisiaeth, rwyf hefyd wedi ennill cymwysterau ychwanegol y tu allan i’r fframwaith gyda MPCT mewn hyfforddiant cylchol a sbin sydd wedi galluogi fy nghyflogwr i gynyddu amrywiaeth y dosbarthiadau.
Y cam nesaf i mi yw dechrau fy Mhrentisiaeth Lefel 3 mewn Hyfforddiant Personol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at hyn am fy mod yn mwynhau gweld unigolion yn datblygu.”
McCauley Britton, J2 Health and Fitness