Cyrsiau

Prosbectws Prentisiaethau

Yn ddiweddar, mae’r Coleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi ailfodelu ei gwricwlwm er mwyn sicrhau ein bod yn darparu cymwysterau, sgiliau a phrofiadau i’r myfyrwyr sy’n diwallu anghenion y diwydiant chwaraeon a hamdden llesol. Caiff myfyrwyr bellach eu herio i weithio tuag at gymwysterau lefelau uwch sy’n gallu agor y drysau i leoliadau gwaith a chyflogaeth. Mae’r cwricwlwm ar lefelau gwahanol yn sicrhau y caiff anghenion myfyrwyr unigol eu diwallu ac y rhoddir addysgu a dysgu o ansawdd iddynt.

Yn y Coleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff, gall myfyrwyr gofrestru ar gwrs llawn amser neu ddewis Prentisiaeth os ydynt eisoes yn gweithio yn y diwydiant chwaraeon a hamdden llesol. Mae gennym gyrsiau llawn amser ar Lefel Mynediad, Lefel 1, Lefel 2 a Lefel 3. Mae’r cwrs y byddwch yn dechrau arno yn dibynnu ar eich graddau TGAU neu gymwysterau blaenorol.