Barn Rhieni

 

Mae gweithio mewn partneriaeth â rhieni yn hollbwysig i ni yma yn y Coleg Paratoi ar gyfer y Fyddin. Rydym o’r farn bod cydweithio’n agos â rhieni yn ein helpu i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl i’n holl ddysgwyr wrth i ni anelu at sicrhau bod ein holl ddysgwyr yn dod yn fyfyrwyr llwyddiannus, yn unigolion hyderus ac yn ddinasyddion cyfrifol.

Mae’r adran hon o’r wefan wedi cael ei sefydlu i rannu

  • adborth gan rieni
  • sylwadau gan rieni
  • awgrymiadau gan rieni
  • canfyddiadau o arolygon rhieni

Ceir y wybodaeth hon ymhellach i lawr y dudalen..

Mae adborth gan rieni yn bwysig iawn i ni. Mae’n ein galluogi i nodi ffyrdd posibl o barhau i wella wrth i ni ymdrechu i ‘fod y gorau y gallwn fod er budd ein Dysgwyr’. Mae llawer o gyfleoedd i rieni roi adborth, sylwadau ac awgrymiadau i ni:

  • Rydym yn cynnal arolwg rhieni bob chwarter
  • Rydym yn gofyn am adborth ysgrifenedig yn dilyn pob sesiwn agored i rieni.
  • Ar bob cylchlythyr mae adran yn gofyn am adborth y gellir ei dychwelyd drwy ddilyn y ddolen.
  • Fel arall, gall rhieni anfon e-bost at enquiries@sports.mpct.co.uk yn uniongyrchol.

Lle mae pryderon unigol, byddwn yn cysylltu â chi yn uniongyrchol i’w trafod ymhellach. Pan fyddwn yn cael adborth mwy cyffredinol neu awgrymiadau am welliannau posibl, ein nod yw rhannu hyn â rhieni naill ai drwy gylchlythyrau neu ein diweddariadau ‘Dywedoch chi, gwnaethon ni’.

 

Barn Rhieni am ein colegau

Mae adborth a sylwadau o’n harolwg o rieni bob chwarter a sesiynau agored i rieni yn hynod gadarnhaol am sawl agwedd wahanol ar ein colegau. O ethos y coleg i’r hyrwyddwyr a’r staff, mae bob amser yn hyfryd clywed am yr hyn rydych yn teimlo ein bod yn ei wneud yn dda a beth, yn eich barn chi, yw cryfderau’r colegau. Dyma rai enghreifftiau o sylwadau a wnaed gan rieni am ein colegau.