Cyfoethogi Dysgwyr
Gall pob dysgwr fanteisio ar ein cyfleoedd cyfoethogi ar unrhyw un o’r rhaglenni cwricwlwm. Mae’r profiadau unigryw hyn wedi’u cynnwys yn bwrpasol yn y ddarpariaeth er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cael dull holistaidd o ddysgu.

Mae dysgwyr yn profi amrywiaeth eang o brofiadau yn ystod eu cyfnod ar y ddarpariaeth MPS sy’n cefnogi eu datblygiad a’u haeddfedrwydd ymhellach.
Drwy gael dysgwyr gwybodus a chyflawn mewn ysgolion a chymunedau lleol, gallant gyfrannu’n fentrus ac yn greadigol at gymdeithas a dod yn aelodau gwerthfawr ohoni.
Caiff dysgwyr yn yr MPS eu gwobrwyo am eu llwyddiant o gychwyn cyntaf y cwrs. Gall llwyddiant i un unigolyn fod yn hollol wahanol i unigolyn arall. Gallai bod yn bresennol bob dydd fod yn llwyddiant i un dysgwr a gallai cwblhau’r holl gymwysterau fod yn llwyddiant i ddysgwr arall. Caiff dysgwyr eu gwobrwyo’n ddyddiol, wythnosol ac ar ôl cwblhau’r cwrs.
Mae’r MPS o’r farn bod gwobrwyo dysgwyr yn eu grymuso i barchu eu hunain ac eraill, yn meithrin eu hunanhyder ac yn eu hannog yn eu datblygiad unigol. I gael gwybodaeth am bryd y cynhelir y Seremoni Wobrwyo nesaf, ewch i’n tudalen digwyddiadau.